Lleoliad: Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4
Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy Zoom Dyddiad: Dydd Mercher, 24 Mai 2023
Amser:
09.30 -
10.45
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS |
Tystion: |
Graeme Keay, Alma Economics Dr Eleni Kotsira, Alma Economics |
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) Božo Lugonja (Ymchwilydd) Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Yn ei gyfarfod ar 26 Ebrill 2023, derbyniodd y Pwyllgor gynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod heddiw.
Cofrestru (09.15-09.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.
2 Adolygiad Annibynnol y Dreth Trafodiadau Tir: cyflwyniad Alma Economics
2.1 Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad ar Adolygiad Annibynnol y Dreth Trafodiadau Tir gan Graeme Keay ac Eleni Kotsira o Alma Economics.
3 Cyllideb Atodol Gyntaf 2023-24: Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol
3.1 Trafododd y Pwyllgor yr amcangyfrifon atodol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; a Chomisiwn y Senedd.
4 Archwilio Cymru - hysbysu am ddyddiadau cau archwilio
4.1 Cytunodd y Pwyllgor i aildrefnu’r eitem ar gyfer y cyfarfod ar 21 Mehefin 2023.
5 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Ardrethu Annomestig
5.1 Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Ardrethu Annomestig a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.
6 Trafod llythyr drafft at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys
6.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys a’i dderbyn gyda mân newidiadau.
7 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25: Diweddariad ar ymgysylltu â rhanddeiliaid
7.1 Trafododd y Pwyllgor y papur ynghylch y digwyddiad i randdeiliaid.